Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

SL(05)008 - Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2016

Cefndir a Phwrpas

Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Ardaloedd Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2015 (O.S. 2015/1517 (Cy. 176)). Mae’r Rheoliadau hyn yn pennu pob tanwydd sydd wedi ei awdurdodi i’w ddefnyddio mewn ardaloedd rheoli mwg yng Nghymru at ddibenion adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993.

Gweithdrefn

Negyddol

Craffu Technegol

Nodir un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn:

 

Rheol Sefydlog 21.2 (vii): Mae anghysondebau yn ystyr y testun Cymraeg a Saesneg. Mae'r Atodlen i'r Rheoliadau yn cynnwys tanwydd awdurdodedig “Aldi Winter Flame Smokeless Fuel”. Ym mharagraff 1(d) o'r Atodlen, mae'r testun Saesneg yn disgrifio'r pwysau ar gyfartaledd fel “either 55 or 80 grams per briquette” tra bo'r testun Cymraeg yn dweud “50 neu 80”

Craffu ar rinweddau

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

 

 

 

 

 

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

26 Gorffennaf 2016